°¬²æAƬ

Annog achosion da °¬²æAƬ i wneud cais am arian gan gwmni adeiladu tai

Caiff elusennau ac achosion da ym Mlaenau Gwent eu hannog i wneud cais am gyfran o bot cymunedol cwmni adeiladu tai.

Mae cwmni blaenllaw Persimmon °¬²æAƬs wedi rhoi mwy na £4m drwy Hyrwyddwyr Cymunedol ers lansio’r cynllun yn 2015 – yn cynnwys degau o filoedd o bunnau yn Ne Cymru.

Mae Clwb Rygbi RTB Glynebwy a Chlwb Bowls RTB Glynebwy ill dau wedi cael arian mewn misoedd diweddar.

Nawr, wrth i Persimmon ddechrau gwaith ar hen safle Ysgol Gyfun a Choleg Glynebwy, mae’r cwmni eisiau clywed mwy gan enillwyr eraill posibl yn yr ardal.

Dywedodd Victoria Williams, cyfarwyddwr gwerthiant Persimmon °¬²æAƬs Dwyrain Cymru:
“Bu Hyrwyddwyr Cymunedol yn llwyddiannus tu hwnt ac mae wedi helpu mwy na 4,000 o achosion da ers ei sefydlu, yn cynnwys tua 300 yn Ne Cymru.

Mae cefnogi’r gymuned leol yn yr ardaloedd yr adeiladwn ynddynt mor bwysig i ni. Dyna pam, wrth i’r peiriannau cloddio ddechrau gwaith ar safle hen Ysgol Gyfun a Choleg Glynebwy, ein bod yn annog grwpiau ar draws °¬²æAƬ i wneud cais am hyd at £1,000 o gyllid.

Ychydig funudau mae’n ei gymryd i wneud cais, a byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.â€

Gellir gwneud ceisiadau drwy ymweld â www.persimmonhomes.com/charity

Dywedodd Bethan McPherson, Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ:
“Rydym yn hynod falch i groesawu Persimmon °¬²æAƬs i Flaenau Gwent ac yn edrych ymlaen at weld y tai newydd yn dod i’r ardal.

Mae cynyddu i’r eithaf y buddion i’r gymuned ehangach y medrir eu cael o ddatblygu yn rhywbeth rydym yn angerddol amdano. Mae’n wych gweld y cwmni yn cysylltu mor gadarnhaol gyda’r gymuned leol. Gobeithiaf y bydd gennym fwy o enillwyr yn yr ardal yn fuan!â€

Caiff datblygiad Persimmon ar Heol Waun-y-Pound ei alw yn Carn y Cefn a bydd yn cynnwys tai dwy, tair a phedair ystafell wely.

Bydd cyfanswm o 55 o’r tai ar gael ar rent cymdeithasol gyda chymdeithas Tai United Welsh ar ddarpar denantiaid ar Gofrestr Tai Gyffredin Cyngor °¬²æAƬ.

Yn ogystal â dod â chartrefi y mae angen mawr amdanynt i’r ardal, bydd y datblygiad yn creu mwy na 200 o swyddi dros y cyfnod adeiladu o bum mlynedd yn ogystal â rhoi hwb o £7m y flwyddyn i’r economi lleol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.persimmonhomes.com