Efallai fod Walter Conway yn enw cyfarwydd i drigolion Tredegar ym Mlaenau Gwent ond y tu allan iâr dref dyffryn hon maeân llai adnabyddus. Fodd bynnag, mae cyfres o ddigwyddiadau yr wythnos hon yn amcanu at newid hyn.
Mae murlun wedi cael ei beintio ar ganolfan siopaâr dref lle mae portread hardd o Walter Conway wediâi amgylchynu gan ddelweddau o leoliadau a oedd yn bwysig iddo. Maeâr rhain yn cynnwys Pwll Rhif 1 Pochin lle buân gweithio dan ddaear, Eglwys Bresbyteraidd Park Place lleâr oedd yn ddiacon ac yn athro, Swyddfeydd Cymorth Meddygol Tredegar aâr Feddygfa Ganolog.
Meddaiâr arlunydd Paul Shepherd (Walls by Paul): âDymaâr pedwerydd i mi ei beintio yn y gyfres hon. Rwyf wedi dysgu cymaint am yr holl gymeriadau ac mae pob un wedi bod yn rhyfeddol yn ei rinwedd ei hun. Roedd hiân ddifyr dod i wybod am rĂ´l Walter yn iechyd a lles Tredegar aâr DU.â
Dadorchuddiwyd Plac Glas ar 1 Rawlinson Terrace, Tredegar, y cartref lle treuliodd Walter y rhan fwyaf oâi fywyd priodasol gydaâi deulu. Dadorchuddiwyd y plac gan Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Hen Wyresau Walter, Julie Watkin ac Allison Nutland.
Ganed Walter yn Rhymni ac roedd ganddo frawd iau. Yn drist, bu farw ei rieniân ifanc, gan adael Walter aâi frawd yng ngofal Bwrdd y Gwarcheidwaid yn Wyrcws Bedwellte. Yma datblygodd ei gariad at lyfrau, yr oedd yn aml yn cyfeirio atynt fel ei ffrind gorau, a chafodd ei ddysgu i âwneud popeth yn ddaâ, mantra a arhosodd gydag ef trwy gydol ei fywyd.
Ar Ă´l gadael y wyrcws, symudodd i mewn i lety a daeth yn lĂśwr ym Mhwll Rhif 1 Pochin. Priododd Walter â Mary Elizabeth Morgan ym 1898 ac fe gafodd y cwpl 3 merch a mab. Roedd y teuluân addoli yn Eglwys Bresbyteraidd Park Place lleâr oedd Walter yn Ddiacon ac yn Athro Ysgol Sul.
Ym 1908 feâi hetholwyd i Fwrdd Gwarcheidwaid Bedwellte, y sefydliad a fuân gyfrifol am ei ofal cynnar yn y wyrcws. Roedd Walter yn aelod cynnar oâr Blaid Lafur Annibynnol, gan ymuno i ddechrau ac yna dod yn un o aelodau cychwynnol cangen Tredegar ym 1911. Roedd Walter hefyd yn fentor iâr Aneurin Bevan ifanc. Ym 1920 fe wnaeth Walter aâi ffrindiau, gan gynnwys Aneurin Bevan ifanc, ffurfio Query Club, a oedd yn gymdeithas ddadlau sosialaidd.
Ond yn fwy na dim maeân cael ei gofio fel ysgrifennydd Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar. Feâi penodwyd ym 1915 a thros y 18 mlynedd nesaf tyfodd y Gymdeithas dan ei stiwardiaeth i fod yn un oâr cymdeithasau gorau, gan ddenu aelodaeth o ardal ehangach. Roedd Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar yn darparu gwasanaethau meddygol ar gyfer 20,000 o bobl leol, oddeutu 95% o boblogaeth y dref. Roedd y gymdeithas yn gweithredu meddygfeydd a oedd yn cyflogi 5 meddyg, 2 ddeintydd, nyrsys a staff cymorth.
Pan fu farw dywedodd yr AS lleol fod Walter âyn ymgorffori gwirionedd ac uniondeb a phopeth oedd yn dda ym mywyd Tredegar.'
Meddaiâr Cyngh. John Morgan, yr Aelod Cabinet dros Le ac Adfywio: âRoedd Walter Conway yn arwr yn y dref hon. Mae cof annwyl amdano hyd heddiw. Pan sefydlodd Bevan y rhaglen adeiladu tai fwyaf yn y DU yn dilyn yr 2il Ryfel Byd, fe wnaeth y cyngor lleol enwi stryd er anrhydedd iddo â Walter Conway Avenue. Yn fwy diweddar mae Cyngor °Ź˛ćAĆŹ wedi gosod mainc â cherfluniau yn y cylch syân edrych dros swyddfeydd y Gymdeithas Cymorth Meddygol ond yn awr rydym yn coffau ei le mewn hanes yn ffurfiol gydaâr Plac Glas hwn a murlun trawiadol yng nghanol y dref. Gobeithio bod hyn nid dim ond yn coffauâr hyn a gyflawnodd ond hefyd yn annog cenedlaethau newydd i archwilioâr hyn a gyflawnodd ac yn rhoi ysbrydoliaeth iddynt i ddilyn eu breuddwydion. Yn olaf, hoffwn ddiolch i Paul am y murlun anhygoel y mae wediâi greu yng nghanol y dref ac i Marcus a Hayley, am ganiatĂĄu i ni osod y Plac Glas hwn ar eu cartrefâ.
Meddai Julie Watkin ac Allison Nutland, ei Hen Wyresau: âAc yntau wedi colli ei rieni pan oedd yn fachgen bach, cafodd Walter ei leoli yn Wyrcws Bedwellte lle datblygodd ei gariad at lyfrau aâi awch am wybodaeth. Yn ddiweddarach yn ei oes byddaiân dal i gyfeirio atoâi hun fel bachgen y wyrcws. Fel ysgrifennydd Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar roedd yn âymroddedig i waith y Gymdeithasâ ac yn âymgorffori popeth oedd yn dda ym mywyd Tredegarâ. Mae Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar bellach yn cael ei chydnabod yn ffynhonnell llawer oâr syniadau newydd a radical ar gyfer gofal iechyd cyffredinol a fyddaiân esblyguân Wasanaeth Iechyd Gwladol ryw bymtheng mlynedd ar Ă´l ei farwolaeth anhymig.â
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: âMaeân fraint nodiâr cyfraniad a wnaeth Walter Conway i iechyd y cyhoedd yn Nhredegar aâi rĂ´l yn hanes ein GIG. Maeân dda gennyf weld ei gyflawniadauân cael eu dathlu heddiw. Roedd yn weinyddwr iechyd eithriadol a helpodd Gymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar i lwyddo, gan ysbrydoli Bevan a chenedlaethau aneirif wedi hynny.â
Cefnogwyd y murlun aâr plac gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Dylai ymwelwyr â Thredegar ymweld ag Amgueddfa Tredegar yn Llyfrgell Tredegar a Chanolfan Dreftadaeth Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar hefyd. Maeâr ddwy wediâu lleoli yn Y Cylch, calon treftadaeth y dref.
Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gorwyresau Walter, Julie Watkin ac Allison Nutland yn dadorchuddioâr Plac Glas. | Plac glas yn cael ei arddangos yn 1 Rawlinson Terrace, Tredegar lleâr oedd Walter yn byw. | |
O'r chwith i'r dde: Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, °Ź˛ćAĆŹ, Y Cynghorydd John C Morgan Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd â Cynghorydd °Ź˛ćAĆŹ, Y Cynghorydd Jacqueline Thomas, Cynghorydd °Ź˛ćAĆŹ, Chris Smith, Aelod Llywyddol a Hyrwyddwr Cydraddoldeb a Chynghorydd °Ź˛ćAĆŹ, Tommy Smith. | Walter Conway - Ffotograff o Orwyresau Walter, Julie Watkin ac Allison Nutland gydaâr Plac Glas. | |
Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol gydaâr Cynghorydd John C Morgan o Flaenau Gwent, Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd o flaen murlun Walter Conway yng Nghanolfan Siopa Gwent, Tredegar. Murlun wedi'i baentio gan Paul Shepherd (Muriau gan Paul). | Oâr chwith iâr dde: Prif Ferch Ysgol Gynradd Georgetown, Prif Fachgen a Phrif Ferch Ysgol Gyfun Tredegar, Prif Fachgen Ysgol Gynradd Georgetown, Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol aâr Cynghorydd John C Morgan Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd. |