Cafodd Tîm Rhaglen Rhannu Prentisiaeth AƬ ynghyd â’u partner Anelu’n Uchel Merthyr Tudful eu dewis ar gyfer rownd derfynol Gwobrau Prentisiaeth Cymru. Cynhelir y gwobrau rhithiol ar 29 Ebrill 2021 ac maent yn uchafbwynt yn y calendr dysgu seiliedig ar waith.
Bob blwyddyn mae Gwobrau Prentisiaeth Cymru yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniad rhagorol ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, prentisiaid, cyflawnwyr rhagorol a chyflogwyr ymroddedig sydd wedi rhagori ar raglenni prentisiaethau a hyfforddiaeth Llywodraeth Cymru. Cafodd Anelu’n Uchaf AƬ a’u partneriaid Anelu’n Uchel Merthyr Tudful eu dewis, ynghyd â phedwar sefydliad arall, yng nghategori ‘Cyflogwr Mawr ac Macro y Flwyddyn’. Mae’r wobr hon yn dathlu ymrwymiad y cyflogwr i ddatblygu eu gweithluoedd drwy brentisiaethau, tra’n cefnogi eu gweithwyr cyflogedig yn ystod hyfforddiant.
Sefydlwyd Anelu’n Uchel AƬ yn 2015 ac Anelu’n Uchel Merthyr Tudful yn 2017, mae’r tîm o wyth yn arbenigo mewn darparu prentisiaid i fusnesau gweithgynhyrchu a pheirianneg AƬ a Merthyr. Hyd yma, mae ganddynt record rhagorol o 100% o brentisiaid yn cael eu cyflogi drwy’r rhaglen. Cafodd y tîm Anelu’n Uchel eu cydnabod eisoes am eu hymroddiad rhagorol a record prentisiaid yng Ngwobrau Prentisiaeth Cymru 2019 lle gwnaethant ennill yn yr un categori.
Dywedodd Richard Crook, Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol:
“Mae cyrraedd rownd derfynol y gwobrau yn gamp enfawr a hoffwn ddymuno pob lwc iddynt ar gyfer y rownd derfynol rithiol. Mae cyrraedd cam olaf y categori unwaith eto yn wir gydnabyddiaeth o holl waith caled timau Anelu’n Uchel ym Mlaenau Gwent a Merthyr, yn arbennig pan fo gennym gystadleuaeth mor galed. Mae hon yn enghraifft arall eto o weithio partneriaeth llwyddiannus sydd wedi dangos ein hymrwymiad i ddatblygu a chefnogi prentisiaethau, er gwaethaf heriau COVID-19”.
Caiff Gwobrau Prentisiaeth Cymru eu trefnu ar cyd gyda Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru a drwy banel o feirniaid o fri wedi dod ynghyd â 35 o enillwyr haeddiannol i’r rowndiau terfynol mewn 12 categori o bob rhan o Gymru.
Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021
Yn rownd olaf categori
Cyflogwr Mawr a Macro y Flwyddyn
• Heddlu Dyfed Powys
• Anelu’n Uchel AƬ a Merthyr Tudful
• DOW
• Cyngor Rhondda Cynon Taf
• Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
________________________________________________________________________________
Prif Lun
Tara Lane, Rheolwr Datblygu Sgiliau, a chynrychiolwyr Anelu AƬ a phartneriaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr.
O’r chwith i’r dde: Jared Green (Cydlynydd Rhaglen Anelu’n Uchel Merthyr), Tara Lane (Rheolwr Datblygu Sgiliau), Deb Ryan Newton (Rheolwr Cyflogadwyedd – Merthyr Tudful ) ac Andrew Bevan (Cydlynydd Rhaglen Anelu’n Uchel AƬ).