Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor °¬²æAƬ heddiw (dydd Iau 25 Mai 2023).
Cafodd y Cynghorydd Stephen Thomas o’r Blaid Lafur ei ailethol yn ffurfiol fel Arweinydd y Cyngor gyda chyfrifoldeb am Corfforaethol a Pherfformiad. Ailetholwyd y Cynghorydd Helen Cunningham yn Ddirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithrediaeth Lle ac Amgylchedd.
Ailetholwyd y Cynghorydd Chris Smith yn Aelod Llywyddol y Cyngor. Mae’r Aelod Llywyddol yn:
- cadeirio cyfarfodydd y Cyngor
- cynnal trefn er mwyn diogelu hawliau Aelodau yn sicrhau y caiff busnes y Cyngor ei gynnal yn deg ac yn ddiduedd
- hyrwyddo ymgysylltu democrataidd ac arweinyddiaeth.
Y Dirprwy Aelod Llywyddol fydd y Cynghorydd David Wilkshire unwaith eto.
Mae Aelodau Cabinet y Cyngor a’u portffolios perthnasol yn parhau fel sy’n dilyn:
- Arweinydd ac Aelod Cabinet Corfforaethol a Pherfformiad – Cynghorydd Stephen Thomas
- Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Lle ac Amgylchedd – Cynghorydd Helen Cunningham
- Aelod Cabinet Pobl ac Addysg – Cynghorydd Sue Edmunds
- Aelod Cabinet Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol – Cynghorydd  Haydn Trollope
- Aelod Cabinet Lle & Adfywio a Datblygu Economaidd – Cynghorydd John C. Morgan
Ar gael ei ail-ethol yn Arweinydd y Cyngor, dywedodd y Cyng Thomas:
 “Mae’n anrhydedd unwaith eto i gael fy newis i wasanaethu fel Arweinydd Cyngor °¬²æAƬ. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ein prif flaenoriaethau, ac mae’r argyfwng mewn costau byw yn un ohonynt. Gwyddom fod hyn yn taro’n galed ar lawer o bobl yn ein cymunedau a rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid ar draws rhanbarth Gwent ar ffyrdd i gynnig cefnogaeth a chyngor i’r teuluoedd hynny sydd mewn trafferthion.
 “Nid yw’n gyfrinach fod gennym gyfnod ariannol heriol ac ansicr iawn o’n blaen fel awdurdod, gyda rhai penderfyniadau anodd iawn ar y gorwel. Rwyf eisiau parhau i weithio gydag aelodau ar draws y sbectrwm gwleidyddol yma ym Mlaenau Gwent i wneud yn siŵr ein bod i gyd yn tynnu gyda’n gilydd i barhau i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl ar gyfer ein preswylwyr. Bydd angen i ni ganfod datrysiadau blaengar fel y gallwn barhau i gyflawni ein cynlluniau ar gyfer y cyfleoedd addysgol a sgiliau gorau, gofal cymdeithasol ansawdd uchel a gwella ein hamgylchedd lleol ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd.â€
Cafodd Cadeiryddion a Dirprwy Gadeiryddion y pwyllgorau dilynol eu penodi hefyd:
- Pwyllgor Craffu Pobl – Cynghorydd Tommy Smith (Cadeirydd)
- Pwyllgor Craffu Lle – Cynghorydd Malcolm Cross (Cadeirydd)Â
- Pwyllgor Craffu Partneriaeth – Cynghorydd Wayne Hodgins (Cadeirydd)Â
- Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad – Cynghorydd Joanna Wilkins (Cadeirydd)Â
- Gwasanaethau Democrataidd – Cynghorydd John Hill (Cadeirydd)
- Planning Committee – Cynghorydd Lisa Winnett (Cadeirydd)
- Pwyllgor Trwyddedu – Cynghorydd Lisa Winnett (Cadeirydd)