Mae Rhaglen Rhannu Prentisiaeth Anelu'n Uchel °¬²æAƬ wedi bod yn cydweithio'n ddiweddar gyda Chanolfan Eden i hwyluso nifer o Heriau Peirianneg Addysg Lego. Arferai'r gweithgaredd gael ei wneud gan ysgolion uwchradd ym Mlaenau Gwent ac yn awr bydd Tîm Anelu'n Uchel yn gweithio gyda chlwstwr ysgolion cynradd Tredegar i gyflwyno gweithgaredd gyda thema Lego.
Anelir y gweithgaredd at ddisgyblion blwyddyn 6 a bydd yn canolbwyntio ar godi proffil peirianneg a gwyddoniaeth.
Bydd yr ysgolion dilynol yn cymryd rhan mewn gweithgaredd gyda thema Lego yr wythnos nesaf:
- Sant Joseff
- Deighton
- Glanhywi
- Brynbach
- Georgetown
Bydd disgyblion yn gwneud gweithgaredd megis adeiladu a rhaglennu robot Lego. Yr her fydd gwneud i ddisgyblion feddwl am y sgiliau amrywiol sydd eu hangen yn ogystal â bod yn ffordd gyffrous i addysgu gwyddoniaeth, technoleg, Saesneg a mathemateg. Yn dilyn y sesiynau, cynhelir cystadleuaeth rhyng ysgolion ynghyd â chyflwyniad i'r ysgol fuddugol ym mis Mehefin.
Dywedodd Richard Crook, Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Amgylchedd ac Adfywio Cyngor Bwrdeisdref Sirol °¬²æAƬ:           Â
“Bu hwn yn gyfle partneriaeth gwych i gyflwyno gweithgaredd seiliedig ar y cwricwlwm gyda budd a chefnogaeth busnesau lleol mewn amgylchedd ysgol. Bu Cynllun Prentisiaeth Anelu'n Uchel yn gweithio gydag ysgolion uwchradd a Chanolfan Eden yn ddiweddar i ddefnyddio Lego fel ffordd o amlygu'r gwahanol sgiliau sydd eu hangen yn y dyfodol a llwybrau gyrfa posibl sydd ar gael iddynt. Rwy'n falch fod y rhaglen yn awr yn gweithio gydag ysgolion cynradd, gyda'r nod o ddangos i ddisgyblion sut mae peirianneg a thechnoleg a phynciau eraill yn bwysig ar gyfer y dyfodol."