°¬²æAƬ

500 o bobl ifanc yn mynychu digwyddiad STEAM

Mae tua 500 o fyfyrwyr o Flaenau Gwent yn mynychu ein Digwyddiad Ysbrydoliaeth STEAM heddiw. Mae STEAM yn sefyll am wyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg.
Gwahoddwyd myfyrwyr o ysgolion uwchradd y fwrdeistref sy'n dewis eu hopsiynau y flwyddyn academaidd hon i'r digwyddiad ym Mharth Dysgu °¬²æAƬ. Yno, mae ganddynt gyfle i gwrdd â 30 o fusnesau lleol sydd yno i ymgysylltu ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr STEAM trwy dynnu sylw at lwybrau gyrfaoedd a gofynion sgiliau, yn ogystal â chwblhau tasg/her fach yn ystod eu hymweliad.
Mae tîm Hwyluso STEM BG y Cyngor yn gweithio gyda phob un o'r 29 ysgol ar draws y fwrdeistref i ddarparu rhaglen gydlynol o gymorth STEM / STEAM sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda 28 o fusnesau lleol i bennu anghenion sgiliau yn y dyfodol ac rydym yn gweithio gyda dros 60 o ddarparwyr STEM sy'n mynd i mewn i ysgolion ac yn cyflwyno sesiynau, gweithgareddau a gweithdai STEM amrywiol sy'n cysylltu â'r anghenion hynny yn y diwydiant.
Mae ymyriadau busnes mewn ysgolion yn canolbwyntio ar yrfaoedd STEM / llwybrau gyrfa. Mae gan bob ysgol gynllun datblygu STEM pwrpasol a grëwyd gan eu Swyddog Cyswllt BG STEM ymroddedig sy'n cyd-fynd â chwricwlwm yr ysgol.
Mae Prosiect Hwyluso STEM °¬²æAƬ yn cael ei ariannu drwy raglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru.