°¬²æAƬ

Fforwm Ymgysylltu

Ymunwch â’n fforymau!

Os oes gennych ddiddordeb mewn dweud eich dweud ar faterion eraill, yna efallai yr hoffech ymuno â’n Fforwm 50+, ein Rhwydwaith Profiad Bywyd ar gyfer Cydraddoldeb neu ein Fforwm Ieuenctid, neu gofrestru i dderbyn rhybuddion am ddigwyddiadau ymgysylltu ac ymgynghoriadau gan Fy Ngwasanaethau Cyngor.

Cwblhewch ein ar-lein i gymryd rhan yn un o’r fforymau isod. Os oes angen cymorth arnoch i wneud hyn, gallwch ymweld â’ch Hyb Cymunedol lleol neu gysylltu â’n Swyddog Cynhwysiant Digidol drwy ffonio 01495 311556.

Rhwydwaith Profiad Bywyd ar gyfer Cydraddoldeb

Mae’r Rhwydwaith Profiad Bywyd yn rhwydwaith o bobl o fewn y cyngor (staff) a phobl sy’n byw ym Mlaenau Gwent sydd â nodweddau gwarchodedig ac sydd eisiau rhannu eu straeon, eu heriau a’u cyflawniadau gyda’r cyngor i arwain y gwaith o gyflawni Cynllun Cydraddoldeb Strategol °¬²æAƬ 2024–28.

Fforwm 50+

Dewch at eich gilydd, cymdeithaswch, a thrafodwch yr hyn sy’n bwysig i chi yn y fforwm rhad ac am ddim, anwleidyddol hwn sy’n agored i bawb. Byddwch yn rhan o lais torfol ar gyfer pobl 50 oed a hŷn sy’n byw a/neu’n gweithio ym Mlaenau Gwent, gan gydweithio i adeiladu cymuned oes-gyfeillgar. Mae’r fforwm yn cyfarfod wyneb yn wyneb neu ar-lein ac mae’n cynnwys siaradwyr gwadd, gweithgareddau, a sgyrsiau am y materion sydd bwysicaf i chi.

Y Fforwm Ieuenctid

Rydym yn grŵp o bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy’n gweithio fel tîm ar faterion allweddol, gan gynrychioli lleisiau plant a phobl ifanc o bob rhan o Flaenau Gwent. Cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cewch y newyddion diweddaraf – rhybuddion Siarad Gyda’n Gilydd

Lluniwch ein gwasanaethau trwy gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ymgysylltu ac ymgynghoriadau sydd ar ddod. Cofrestrwch i dderbyn rhybuddion ‘Dweud Eich Dweud’ ar Fy Ngwasanaethau Cyngor . Ymgynghorir â chi ar ystod eang o faterion i’n helpu i wella ein gwasanaethau i gefnogi lles cymunedol yn eich ardal.

Rydym wedi gwrando a gweithredu

Rydym am eich gwneud yn ymwybodol o sut mae eich amser a’ch ymroddiad wedi effeithio ar ein penderfyniadau ac wedi llywio ein hymarfer yn sgil ein digwyddiadau Siarad Gyda’n Gilydd. Gallwch weld canlyniadau digwyddiadau’r gorffennol trwy ddewis y canlynol:

Siarad Gyda’n Gilydd ar gyfer Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Mai 2024  

Dogfennau cysylltiedig

I ymuno â’r fforwm ieuenctid, cofrestrwch yma:

I ymuno â’n fforymau eraill, cofrestrwch yma: