Charlotte Clark
Maer Ieuenctid °¬²æAƬ 2019-2020
Aelod °¬²æAƬ ar Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig
Person ifanc, sy’n angerddol am newid a siaradwraig, ymgyrchydd ac eiriolwraig frwdfrydig
Ers ymuno â Fforwm Ieuenctid °¬²æAƬ yn 2018, bu Charlotte Clark o Llanhiledd yn ymroddedig i sicrhau y caiff lleisiau pobl ifanc ym Mlaenau Gwent ac yn genedlaethol ar draws Cymru eu clywed a’u bod yn dylanwadu ar benderfyniadau a newid.
Ers i mi fod yn rhan o’r Fforwm Ieuenctid rwyf wedi tyfu mewn hyder, cwrdd â ffrindiau newydd a chymryd rhan mewn llawer o brosiectau a rhaglenni sydd wedi cefnogi newid cadarnhaol.
Daeth cyfnod Charlotte fel Maer Ieuenctid i ben ym mis Tachwedd 2020. Fe wnaeth pandemig Covid-19 daro yn ystod cyfnod Charlotte fel Maer Ieuenctid, gan olygu y bu’n rhaid iddi ddefnyddio ffyrdd newydd o weithio o fewn ei rôl bwysig fel llysgennad pobl ifanc ac ar ran Cyngor °¬²æAƬ hoffem longyfarch a dathlu llwyddiannau niferus Charlotte. Charlotte, dylai dy rieni, pobl ifanc a chi’ch hunan fod yn falch iawn ohonot, da iawn ti.
Sut y deuthum yn Faer Ieuenctid °¬²æAƬ yn 2019
Dechreuodd fy nhaith ym mlwyddyn 6 pan gefais gynnig cyfle i ddod yn rhan o’r Uwch Gyngor Plant sy’n dod â chynrychiolwyr ysgolion cynradd ynghyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog i ysgogi trafodaeth am bynciau perthnasol. Yn ystod y cyfnod hwn ysgrifennais gerdd a gafodd ei dewis gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus °¬²æAƬ i’w chyflwyno ym Mharc Bryn Bach fel plac i lansio cynllun llesiant lleol °¬²æAƬ, ‘Y °¬²æAƬ a Garem’. Hwn oedd un o’r prif bethau cyntaf i mi ei gyflawni ac yn ystod y cyfnod hwn cefais gynnig i ymuno â’r Fforwm Ieuenctid. Ar ôl gwrthod i ddechrau, oherwydd fy hyder, cefais fy nerbyn ac ymuno. Digwyddodd hyn yr un pryd â’r etholiadau ar gyfer y Maer Ieuenctid, felly gan mwrw fy hun i’r dwfn, penderfynais gyflwyno fy enw ac er mawr ryfeddod i mi, cefais fy newid. Fi nawr oedd y Dirprwy Faer Ieuenctid!
Fy mlaenoriaeth fel Dirprwy Faer Ieuenctid oedd Tegwch Mislif yn ogystal â chefnogi y Maer Ieuenctid gyda’i blaenoriaeth o hawliau LGBTQ+ a gweithiais gyda fy ffrindiau yn y Fforwm Ieuenctid lle mai iechyd meddwl oedd y flaenoriaeth a ddewiswyd.
Tlodi Mislif
Fe wnaeth y flaenoriaeth hon fy ngalluogi i weithio gyda phobl o’r un anian i wella cyfleusterau mislif i bawb. Roeddwn yn angerddol iawn am hyn gan y credaf y dylai pawb gael mynediad i’r cynnyrch glanweithdra angenrheidiol gan y gwyddom y gall diffyg eitemau sylfaenol o’r fath:
- Tarfu ar addysg
- Tarfu ar fywyd cymdeithasol
- Cael effaith ariannol.
Rwy’n falch dweud y daeth °¬²æAƬ yn un o’r ardaloedd cyntaf i gynnig cynnyrch mislif am ddim mewn ysgolion ar draws y fwrdeistref a gwahanol safleoedd cymunedol.
Iechyd Meddwl (gyda ffocws ar ddelwedd corff cadarnhaol)
Yn 2019 deuthum yn Faer Ieuenctid °¬²æAƬ a chafodd hynny ei ddathlu gyda sefydlu gwych yn Siambr Cyngor Neuadd y Ddinas Caerdydd, gyda ymweliad i’r Ffair Aeaf i ddilyn. Gosodais iechyd meddwl fel fy mlaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn gyda ffocws ar Delwedd Corff Cadarnhaol. Pam? Oherwydd fy mod yn sylweddoli sut y gall delwedd corff rywun gael effaith enfawr ar eu hiechyd meddwl. Er na aeth pethau fel y bwriadwyd yn ystod y flwyddyn oherwydd pandemig Covid-19, fe wnes ddal i wneud hyn yn ffocws yn yr ysgol, gan ymgyrchu ymysg fy nghyfoedion a gweithio gyda’r Fforwm Ieuenctid i gynhyrchu dalenni gwybodaeth ynghyd â ffilm ymgyrch sydd ar gael yma: /?id=1603
E-bost: pps@blaenau-gwent.gov.uk Tel: 01495 355092
Parhau fy Nhaith
Ni ddaeth fy nhaith fel Maer Ieuenctid i ben yno. Mae bod yn rhan o’r Fforwm Ieuenctid wedi fy ngalluogi i:
- Bod yn rhan o ymgynghoriadau pwysig ar bethau fel iechyd meddwl, plismona a llesiant i sicrhau y caiff lleisiau pobl ifanc a phlant eu clywed yn barhaus.
- Cymryd rhan mewn ymgyrchoedd cenedlaethol tebyg i Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod.
- Bod yn rhan o’r Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol.
- Mynychu cyfarfod llawn o’r cyngor i siarad am fy nhaith a fy mlaenoriaethau
- Mynychu cyfarfod am gynhwysiant digidol gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru, ac yn olaf
- Dod yn aelod o Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig sydd wedi fy ngalluogi i gyflwyno cynnig a gytunwyd ar ‘Gwella Addysg Iechyd Meddwl ar gyfer Disgyblion a Gwell Hyfforddiant i Staff’ sydd wedi fy ngalluogi i gwrdd â phobl ifanc eraill o bob rhan o Brydain.
Ond cadwch eich llygad ar agor gan nad yw fy nhaith wedi dod i ben. Rwy’n dal i fod yn aelod gweithgar o’r Fforwm Ieuenctid ac yn dal i gynrychioli °¬²æAƬ ar Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig gyda ffocws eleni ar ATAL LLYGREDD PLASTIG!