°¬²æAƬ

Data Agored (Trwydded Llywodraeth Agored)

Setiau Data 

Rydym yn cyhoeddi ystod o ddata y gallwch ei lawrlwytho a'i ailddefnyddio, o dan delerau  .  Mae hyn yn egluro beth allwch chi ei wneud a na allwch ei wneud gyda'r data.

Mae Setiau Data ar gael ar sawl tudalen o wefan y Cyngor.  Ar hyn o bryd rydym yn adolygu hyn er mwyn creu mynegai canolog o setiau data i hwyluso mynediad at wybodaeth.

Efallai y bydd angen dileu (rhestru) rhywfaint o ddata. Er enghraifft, gwybodaeth bersonol a allai adnabod unigolyn, neu wybodaeth sy'n fasnachol sensitif.  Rydym yn gwneud hyn i gydymffurfio â'r Ddeddf Diogelu Data a'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Rydym yn cymryd gofal i sicrhau bod y data'n gywir.  Fodd bynnag, dylech wneud eich gwiriadau eich hun cyn dibynnu ar y data.

Fformatau Ffeil

Lle bo'n bosibl ac yn berthnasol, rydym wedi sicrhau bod y data hwn ar gael mewn fformat 'darllenadwy ddynol' (megis PDF a XLS) a fformat 'darllenadwy peirianyddol' agored nad yw'n dibynnu ar unrhyw feddalwedd benodol (megis CSV neu XML).  Dewisir fformatau priodol ar gyfer pob set ddata.

Rhyddid Gwybodaeth (FOI) 

Darllenwch sut mae'r cyngor yn ymdrin â cheisiadau rhyddid gwybodaeth a sut i wneud cais.

Gwybodaeth Gyswllt

Enw'r Tîm: Cyfreithiol
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk