Ein manylion cyswllt
Mae'r sefydliadau canlynol yn cyd-reoli data mewn perthynas â'r gwasanaeth hwn:
Sefydliad: | Manylion cyswllt Diogelu Data: |
---|---|
Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ | info@blaenau-gwent.gov.uk 01495 311556 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili DiogeluData@caerffili.gov.uk | DiogeluData@caerffili.gov.uk 01443 864322 |
Cyngor Sir Fynwy | dataprotection@monmouthshire.gov.uk 01633 644744 |
Cyngor Dinas Casnewydd | information.management@newport.gov.uk 01633 656656 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen | DPA@torfaen.gov.uk 01633 647467 |
Y math o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chasglu
Os ydych chi wedi derbyn canlyniad positif i brawf SARS-CoV-2, rydyn ni'n casglu a phrosesu'r wybodaeth ganlynol amdanoch chi:
- eich enw, dyddiad genu, cyfeiriad a manylion cyswllt,
- eich swydd, lleoliad gwaith, rheolwr llinell a disgrifiad o'ch gwaith,
- enwau, dyddiad geni a manylion cyswllt y sawl sydd yn eich cartref ynghyd ag a oedden nhw'n bresennol yn ystod eich cyfnod heintus,
- enwau a manylion cyswllt unrhyw un arall rydych chi wedi bod mewn cysylltiad â nhw yn ystod eich cyfnod heintus, a
- y lleoedd rydych chi wedi ymweld â nhw yn ystod eich cyfnod heintus, ac
- unrhyw symptomau COVID19 a allai fod gennych chi ac a ydych chi wedi bod yn yr ysbyty o ganlyniad i'r symptomau hynny.
Os ydych chi wedi'ch enwi fel rhywun sydd wedi bod mewn cysylltiad ag unigolyn sydd wedi cael canlyniad positif i brawf SARS-CoV-2, byddwn ni'n casglu'r wybodaeth ganlynol amdanoch chi:
• eich enw, dyddiad genu, cyfeiriad a manylion cyswllt,
• eich swydd, lleoliad gwaith, rheolwr llinell a disgrifiad o'ch gwaith,
• enwau, dyddiad geni a manylion cyswllt y sawl sydd yn eich cartref, ac
• unrhyw symptomau COVID19 a allai fod gennych chi ac a ydych chi wedi bod yn yr ysbyty o ganlyniad i'r symptomau hynny.
Sut rydyn ni'n cael gafael ar yr wybodaeth bersonol, a pham mae hi gennym ni
Mae rhywfaint o'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu yn cael ei darparu i ni yn uniongyrchol gennych chi, neu'ch cynrychiolydd, am y rhesymau canlynol:
- er mwyn gweithredu gwasanaeth olrhain cysylltiadau COVID-19, gan gynnwys cynnig cyngor a chymorth i'r rheiny sydd wedi bod mewn cysylltiad ag unigolyn sydd wedi derbyn canlyniad positif i brawf SARS-CoV-2, a threfnu profion SARS-CoV-2 ar gyfer y rheiny sydd yn dangos symptomau COVID-19.
Rydyn ni hefyd yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol, gan y ffynonellau yn y sefyllfaoedd canlynol:
- Os ydych chi wedi derbyn canlyniad positif i brawf SARS-CoV-2; byddai'r ganolfan brofi wedi darparu eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad a manylion cyswllt.
- Os ydych chi wedi'ch enwi fel rhywun sydd wedi bod mewn cysylltiad ag unigolyn sydd wedi derbyn canlyniad positif i brawf SARS-CoV-2; byddai'r unigolyn, neu ei gynrychiolydd, wedi darparu eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad a manylion cyswllt.
Efallai byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth yma â'r sefydliadau sydd wedi'u nodi uchod, sy'n ffurfio Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau Gwent, at ddibenion ymateb i'r argyfwng iechyd cyhoeddus difrifol o ran y pandemig COVID-19. Efallai byddwn ni hefyd yn rhannu gwybodaeth â Llywodraeth Cymru at y diben hwn.
O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), y seiliau cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw (dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg):
• Erthygl 6(1)(e) –processing is necessary for the performance of a task carried out in the public interest or in the exercise of official authority vesting in the controller
Mae hyn wedi'i atgyfnerthu gan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd (Rheoli Gwybodaeth Cleifion) 2002.
Gan fod diogelwch ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer dosbarthiadau penodol o wybodaeth o'r enw ‘data personol categori arbennig’ fel gwybodaeth iechyd, rhaid nodi sail gyfreithlon ychwanegol er mwyn prosesu'r dosbarth yma o wybodaeth, fel yr amlinellir isod (dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg):
- Erthygl 9(2)(i) – processing is necessary for reasons of public interest in the area of public health
Gall erthyglau cymwys eraill gynnwys (dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg):
- Erthygl 9(2)(h) – processing is necessary for the purposes of preventive or occupational medicine, for the assessment of working capacity of the employee, medical diagnosis, the provision of health or social care or treatment or the management of health or social care systems and services
- Erthygl 9(2)(g) – processing is necessary for reasons of substantial public interest
Sut rydyn ni'n storio'ch gwybodaeth bersonol
Mae'ch gwybodaeth yn cael ei storio'n ddiogel yn System Ddata Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau Gwent.
Dim ond cyhyd ag y mae ei hangen yr ydym yn ei chadw a phan nad oes ei hangen mwyach, bydd yn cael ei dileu/dinistrio'n ddiogel.
Eich hawliau o ran diogelu data
O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau sy'n cynnwys:
Eich hawl i fynediad – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol.
Eich hawl i gywiro – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol rydych chi'n meddwl sy'n anghywir. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth rydych chi'n meddwl sy'n anghyflawn.
Eich hawl i ddileu – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.
Eich hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu'ch gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.
Eich hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu'ch gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.
Eich hawl i gludadwyedd data – Mae gennych yr hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol rydych chi wedi'i rhoi i ni i sefydliad arall, neu i chi, mewn rhai amgylchiadau.
Does dim angen i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Os ydych yn cyflwyno cais, mae gennym un mis i ymateb i chi.
Os ydych am gyflwyno cais, cysylltwch â'r sefydliad perthnasol, fel y manylir uchod.
Sut i gwyno
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol, gallwch gwyno trwy gysylltu â'r sefydliad perthnasol, fel y manylir uchod.
Gallwch hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn anfodlon ar sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data.
Cyfeiriad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif y llinell gymorth: 0303 123 1113
Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:Â