Mae'r Rhaglen Rhannu Prentisiaeth ym Mlaenau Gwent yn brosiect strategol gyda nifer o bartneriaid; Parth Menter Glynebwy, Addysg, Diwydiant a Chyngor Bwrdeisdref Sirol °¬˛ćAƬ. Caiff y rhaglen ei gosod i hybu datblygu sgiliau o fewn cwmnĂŻau gweithgynhyrchu a pheirianneg i ddatblygu twf busnes, tra'n mynd i'r afael â diweithdra a rhoi cyfleoedd anelu'n uchel i bobl ifanc ar draws yr awdurdod lleol.
Sut mae'n gweithio?
- Cyflogir prentisiaid gan Anelu'n Uchel °¬˛ćAƬ a chânt eu lleoli gyda chwmni gweithgynhyrchu cynnal am gyfnod y brentisiaeth (2-3 blynedd) yn dilyn proses ddethol a chyfweliad;
- Bydd y cwmni cynnal a'r prentis yn cytuno ar lwybr dysgu gyda Choleg y Cymoedd sy'n bartner cyflenwi ac y dyrannwyd cyllid iddynt;
- Gall prentisiaid fynd o amgylch cyflogwyr i gyflawni unrhyw fylchau mewn sgiliau; a
- Bydd prentisiaid yn cael tâl uwch na'r isafswm cyflog prentisiaeth.
Gofynion mynediad
- 16-24 oed
- 5 TGAU Gradd A-C yn cynnwys pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg)
- Pas lefel A mewn pynciau STEM - yn arbennig mathemateg a gwyddoniaeth
- Dechrau VRQ
- Cwblhau Rhaglen Estynedig Peirianneg neu Lwybrau i Brentisiaethau
- Wedi cwblhau VRQ yn y coleg
Gwybodaeth Gyswllt
Tara Lane
Ffon: 07805 759903
E-bost: tara.lane@blaenau-gwent.gov.uk
Graham Rees
Ffon: 07814 458045
E-bost: graham.rees@blaenau-gwent.gov.uk
Andrew Bevan
Ffon: 01495 355508
E-bost: andrew.bevan@blaenau-gwent.gov.uk