°¬²æAƬ

Diogelwch Gwely Haul

Deddf Gwelyau Haul (Rheoliad) 2010 Rheoliadau (Cymru) 2011 

Daeth y Ddeddf yn cwmpasu’r defnydd o welyau haul i rym yng Nghymru yn Ebrill 2011. 

Mae Deddf Gwelyau Haul (Rheoliad) 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sicrhau nad yw unrhyw berson dan 18 oed  

  • yn defnyddio gwely haul
  • yn cael cynnig defnydd o wely haul
  • yn bresennol ar barth cyfyngedig 

Cyswllt: Mae methiant i gydymffurfio â’r Ddeddf yn dramgwydd troseddol a gellid cymhwyso penyd o hyd at £20,000. 

Cyflwynwyd rheolaethau pellach gan Ddeddf Gwelyau Haul (Rheoliad) 2010 (Cymru) Rheoliadau 2011 a ddaeth i rym ar 31ain Hydref 2011:  

  • gofyniad bod defnydd gwelyau haul yn cael ei arolygu ym mhob busnes gwelyau haul
  • gwahardd gwerthu neu logi gwelyau haul i bersonau dan 18 oed
  • estyn gofynion y rheoliadau i fusnesau sy’n gweithredu o adeiladau domestig
  • fformat a chynnwys penodol i’r wybodaeth ar iechyd sydd i’w harddangos ac i fod ar gael i oedolion allai geisio defnyddio gwely haul
  • gwahardd darparu neu arddangos unrhyw ddeunydd yn gysylltiedig ag effaith defnyddio gwelyau haul ar iechyd, ar wahân i ddeunydd yn cynnwys y wybodaeth ar iechyd a nodwyd gan y rheoliadau, a
  • gofyniad i ddarparu a gwisgo sbectol amddiffynnol, ddiogel a phriodol ar gyfer oedolion 

I roi gwybod am anghydffurfio â’r gyfraith neu am gyngor a chyfarwyddyd ar gydymffurfio, rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda. 

Gwybodaeth bellach ar welyau haul a’r ddeddfwriaeth 

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Commercial Team

Rhif Ffôn: 01495 369542

Cyfeiriad: Public Protection – Environmental Health, Commercial Team, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN

Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk