Benthyciadau Eiddo Canol Trefi
Mae benthyciadau di-log yn awr ar gael ar gyfer eiddo masnachol ym Mlaenau Gwent .
Mae benthyciadau ar gael i wella adeiladau gwag ac adeiladau a danddefnyddir i ddod â nhw yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol.
Gellir hefyd ddefnyddio benthyciadau i gaffael eiddo, i gael mwy o wybodaeth:5
E-bost :- regeneration-projects@blaenau-gwent.gov.uk
Ffôn Symudol - 07790545307 Karen Williams
Ffôn Symudol - 07580858576 Amanda Phillips
Amodol ar wiriadau fforddiadwyedd a’r Cyngor yn gweithredu arwystl cyfreithiol gofynnol.
Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Sirhywi Uchaf (Tredegar)
Cronfa Trechu Tlodi °¬²æAƬ
Gweledigaeth
Mae'r prosiect yn cyflwyno'r weledigaeth y dylai pawb yng Nghymru fyw mewn cymunedau llewyrchus, hyfyw a chynaliadwy gydag economi lleol cryf ac ansawdd bywyd da.
Neges allweddol y prosiect yw bod angen i bartneriaid o'r sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector gydweithio i gael y budd adfywio mwyaf o'r holl raglenni buddsoddi.
Nod allweddol
Trechu tlodi drwy greu swyddi, annog datblygu sgiliau, gwella tai, darparu cyfleusterau a helpu pobl i waith.
Prosiectau Trechu Tlodi
Derbyniodd Cyngor Bwrdeisdref Sirol °¬²æAƬ gyllid gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'u Cronfa Trechu Tlodi Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid i gyflwyno'r prosiectau dilynol:
Cynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar
Sicrhawyd £350,000 fel arian cyfatebol tuag at weithredu Cynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar.
Gwella Tai - Prosiect Tlodi Tanwydd - Cyfraniad Cronfa Trechu Tlodi £150,000
Gwariwyd £50,000 eisoes ar fesurau effeithiolrwydd ynni megis gosod boeleri newydd a gwres canolog newydd yn Castle Mews a'r cyffiniau. Gan weithio mewn partneriaeth gyda landlordiaid preifat mae £100,000 pellach o gyllid wedi'i dargedu i wneud gwaith ar doeau yn Stryd Salisbury Uchaf sydd wedi derbyn gwaith gwella arall megis insiwleiddio a boeleri newydd, gan felly arwain at brosiect gwella mwy cynhwysfawr.
Canolfan Gymunedol STAR
Cyfraniad Cronfa Trechu Tlodi £1000
Yng nghanol Sirhywi, bydd canolfan gymunedol newydd ar ddatblygiad preswyl arfaethedig gan Gymdeithas Tai United Welsh yn lletya Tenantiaid a Phreswylwyr Sirhywi (STAR) sydd ar hyn o bryd yn darparu ystod o weithgareddau a chefnogaeth i amrywiaeth o bobl. Bydd y cyfleuster newydd yn galluogi STAR i ddal ati i ddarparu'r gwasanaethau hyn fydd yn parhau o fudd i'r gymuned.
Mae'r cyfanswm cyllid o £160,000 yn cynnwys £40,000 o'r Prosiect Hyfforddiant drwy Welliannau Tai, Canol Trefi a'r Amgylchedd a neilltuwyd ar gyfer cyflenwi deunyddiau i alluogi hyfforddeion i gymryd rhan ar weithredu prosiectau yng nghanolfan gymunedol arfaethedig Tenantiaid a Phreswylwyr Sirhywi.
Cefnogaeth Gymunedol yn Nhŷ Aneurin Bevan (£85,000)
Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol °¬²æAƬ yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo (CRT) ar Drosglwyddo Ased Cymunedol TÅ· Aneurin Bevan i ddatblygu cyfleuster aml-asiantaeth fydd yn darparu ystod o wasanaethau rhyng-gysylltiedig ac ategol i unigolion a busnesau. Caiff y prosiect ei gyflwyno mewn partneriaeth gyda thenantiaid, partneriaid a'r gymuned. Bydd y prosiect yn cyfrannu at adfywiad cymdeithasol ac economaidd canol tref Tredegar a chyflwyno model y gellir ei ymestyn ar draws y Fwrdeisdref Sirol ac yn ehangach.
Bydd y gweithgareddau/cynigion dilynol gan CRT yn gweithredu o DÅ· Aneurin Bevan i gefnogi a gweithredu Agenda Gwrthdlodi Llywodraeth Cymru.
- Cyngor a chefnogaeth Cyflogaeth a Hyfforddiant drwy gynllun Cyflogaeth Teulu CRT a ariannir gan yr Undeb Ewropeaidd
- Gwasanaethau cyngor a chefnogaeth CRT
- Cyngor a chefnogaeth ar ddatblygu busnesau menter gymdeithasol
- Gwasanaethau undeb credyd
- Cyngor a chefnogaeth ar ddyledion
- Gwasanaethau cyllid micro fenthyciadau
- Cefnogaeth datblygu personol Game On i bobl ifanc.
Cynigir defnyddio £85,000 o gyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid i Dŷ Aneurin Bevan er mwyn darparu'r gwasanaethau a restrir uchod.
Hyfforddiant drwy Welliannau Tai, Canol Trefi ac Amgylchedd (£90,000)
Bydd y prosiect yn datblygu partneriaeth rhwng y Cyngor, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, Cymunedau yn Gyntaf, Fforwm Busnes Tredegar a'r CRT i ddarparu hyfforddiant i aelwydydd heb waith. Dynodwyd y sgiliau adeiladu sydd eu hangen ar gyfer gwaith adnewyddu eiddo a'r amgylchedd sy'n gydnaws â holl gynigion prosiect Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.
Mae mwyafrif prosiectau Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn rhoi cyfle i hyfforddi pobl mewn gweithio ar adeiladau. Mae'r gweithiau nodweddiadol yn cynnwys peintio, addurno, plastro, adnewyddu/atgyweirio adeiladau ac ati.
Mae'r prosiect yn gydnaws â phrosiect LIFT Cymunedau yn Gyntaf er budd pobl heb waith a bydd yn gweithredu fel carreg gamu i symud ymlaen i hyfforddiant pellach fel rhan o'r cymalau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â phrosiectau adnewyddu eiddo o fewn y rhaglen gyffredinol.
Gwelliannau Amgylcheddol Cymdogaeth Ashvale (£10,000)
Cynhelir prosiect £465,000 ar y cyd rhwng Tai Calon, Cyngor °¬²æAƬ a phreswylwyr lleol yn Ashvale sydd o fewn ardal clwstwr Tredegar a Sirhywi Cymunedau yn Gyntaf a sefydlwyd i fynd i'r afael â thlodi a chefnogi pobl yn rhannau mwyaf amddifadus Cymru. Caiff ardal o dir gwastraff ei thrawsnewid yn ardd gymunedol ynghyd â darparu ardal chwarae ar gyfer plant, gwell parcio a ffensys terfyn newydd. Gall pobl leol gasglu eu ffrwythau eu hunain ar gyfer coginio neu eu bwyta o goed yn y berllan gymunedol.
Mae'r cynnig hefyd yn anelu i wella'r mynediad o gymdogaeth Ashvale i Barc Gwledig Parc Bryn Bach, glanhau a chlirio'r llwybr ac adeiladu llwybr pob-tywydd pob-defnyddiwr sydd nid yn unig yn cysylltu'r gymdogaeth gyda'r parc ond hefyd gydag ysgolion cynradd lleol Bryn Bach a Sant Joseff ac yn cyfoethogi'r llwybr yn nhermau bioamrywiaeth a chanfyddiad y cyhoedd.
Gwerir £10,000 o gyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid i greu llwybr i gysylltu gyda llwybrau eraill yn yr ardal i lenwi'r ddolen rhwng Ashvale, Parc Bryn Bach ac ysgolion lleol.
Partner arall yn y prosiect yw Green Shoots, a ariannir gan Gwasanaethau Cymdeithasol °¬²æAƬ - Opsiynau Cymunedol. Nod Green Shoots yw rhoi cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl gydag anabledd ym meysydd garddwriaeth a cerameg a gweithio o fewn y cymunedau lleol. Cynigir bod defnyddwyr gwasanaeth yn cymryd rhan yng nghyfnod plannu'r prosiect a gyflwynir gan Tai Calon a Thîm Seilwaith Gwyrdd Cyngor °¬²æAƬ.
Benthyciadau Ailgylchadwy (Preswyl)*
"I wella anheddau sydd angen eu hadnewyddu/hatgyweirio"
Cafodd £400,000 eu sicrhau i ddarparu benthyciadau i berchen-feddianwyr a'r sector rhent preifat i wella anheddau yng nghanol tref Tredegar sydd eu hangen eu hadnewyddu/atgyweirio.
Mae'r benthyciadau i'w defnyddio i alluogi cartref i fod yn gynnes a diogel a gellir eu defnyddio mewn cysylltiad â chyllid grant arall (h.y. fel arian cyfatebol ar gyfer unrhyw waith preswyl fel rhan o Gynllun Treftadaeth Tirlun Tredegar) ond ni fydd unrhyw 'ariannu dwbl' ar waith prosiectau.
Cynllun Benthyciad Canol Tref*
Sicrhawyd £714,000 i ddarparu benthyciadau i ostwng nifer y safleoedd gwag, nad ydynt yn cael eu defnyddio a segur a safleoedd yng nghanol y dref a chefnogi arallgyfeirio canol y dref drwy annog defnyddiau mwy cynaliadwy ar gyfer safleoedd ac eiddo gwag, megis preswyl, hamdden ac ar gyfer gwasanaethau allwedd.
*Benthyciadau ac nid grantiau yw'r rhain ac felly bydd angen eu had-dalu. Caiff yr arian benthyciad a ad-delir ei ailgylchu felly gellir gwella eiddo ychwanegol a dod â hwy yn ôl i ddefnydd.
Dogfennau Cysylltiedig
Gwybodaeth Gyswllt
Brian Swain
Ffon: 01495 35534
Civic Centre, Ebbw Vale, Gwent, NP23 6XB
E-bost: Brian.swain@blaenau-gwent.gov.uk