Mae °¬²æAƬ yn lle ardderchog i gynnal busnes, yn arbennig os ydych am le i gynnal eich cyfarfod, cynhadledd, arddangosfa neu ddigwyddiad.Ìý
Y Swyddfeydd Cyffredinol ar safle'r Gweithfeydd yng Nglynebwy yw ein canolfan cynhadledd fwyaf. Adeiladwyd y Swyddfeydd Cyffredinol yn 1915-16 ar gyfer Cwmni Dur, Haearn a Glo Glynebwy. Cawsant eu cynllunio gan Vale a Sant o Gaerdydd mewn arddull baroque rhydd yr Iseldiroedd.Ìý Gyda rhestriad gradd II*, mae'n adeilad swyddfa ddiwydiannol cain a phrin i oroesi. Mae'r cynllun swmpus yn dangos ffyniant y diwydiant dur ddechrau'r 20fed ganrif.Ìý
Yr adeilad oedd prif swyddfa Cwmni Dur Haearn a Glo Glynebwy Cyf, a sefydlwyd yn 1867. Heddiw mae'n cynrychioli un o'r ychydig o adeiladau eiconig dechrau'r 20fed ganrif sy'n gysylltiedig gyda thref Glynebwy ac yn neilltuol, gyda gwaith haearn a dur. Mae wedi goroesi 100 blwyddyn gythryblus mewn diwydiant a welodd newid seismig ac sy'n parhau, o leiaf am y dyfodol rhagweladwy, yn un o ychydig o waddol treftadaeth ddiwydiannol y sir.Ìý
Yn yr adeilad ar hyn o bryd mae Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy, Archifdy Gwent a thîm rheoli Cyngor Bwrdeisdref Sirol °¬²æAƬ. Cafodd estyniad ei ychwanegu pan adnewyddwyd yr adeilad ar gyfer Archifdy Gwent.Ìý
Cadwodd y gwaith adnewyddu helaeth holl gymeriad yr adeiladau gan ychwanegu cyfleusterau cynhadledd modern. Yn ogystal â wifi a chyfleusterau taflunio, mae gan yr adeilad hefyd sinema 4D, ystafell taflunio 360° a system ryngweithiol Sandpit.Ìý
Mae gan y Swyddfa Gyffredinol 7 gofod cyfarfod hyblyg a 2 ystafell taflunio gyda lle ar gyfer rhwng 2-250. Mae'r holl ystafelloedd yn hygyrch i'r anabl gyda wifi.Ìý
Mae lleoedd parcio am ddim gerllaw'r adeilad a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ardderchog gyda Gorsaf Rheilffordd Tref Glynebwy yn ymyl yr adeilad a gwasanaeth bws X4 yn stopio yn ymyl.Ìý
I archebu eich digwyddiad ffoniwch 01495 369501 neu anfon eich ffurflen gais at generaloffices@blaenau-gwent.gov.ukÌý
Mwynhewch daith fideo o gwmpas y Swyddfeydd Cyffredinol isod:
Gwybodaeth Gyswllt
Victoria Daniels
Rhif Ffôn: 01495 369501
E-bost:Ìýgeneraloffices@blaenau-gwent.gov.uk